![]() |
||||||||||
|
||||||||||
CROESO! Welcome! Bienvenue! Fáilte! Willkommen! Välkommen! ...i 7fed Gŵyl Agor Drysau – Opening Doors! |
||||||||||
Tocynnau Wedi ichi bori trwy’r RHAGLEN a phenderfynu pa berfformiadau a gweithgareddau hoffech chi fynychu, cysylltwch i archebu eich tocynnau. Mae manylion llawn y swyddfeydd tocynnau ar y dudalen Cysylltu. Mae tocynnau unigol yn amrywio o £3.50 - £7.00. Tocyn Gŵyl am £50!
I archebu eich Tocyn Gŵyl Cysylltwch âg Arad Goch. Gwahoddedigion o Dramor
|
Yr Ŵyl Aberystwyth, tref glan môr yng Ngheredigion yw’r lleoliad ar gyfer yr Ŵyl, a rhwng Mawrth 19 – 24 bydd y dref yn fwrlwm wrth i berfformiadau gael eu cynnal ar y stryd, ar y prom, yng Nghanolfan Arad Goch, Canolfan y Celfyddydau a’r Llyfrgell Genedlaethol. Cynhelir seminarau, derbyniadau a nosweithiau cymdeithasol mewn sawl lleoliad yn y dref, am wybodaeth bellach ewch i’r RHAGLEN Bydd nifer o’r cynhyrchiadau yn teithio i ganolfannau eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl mewn rhannau eraill o’r wlad yn cael y cyfle i brofi’r arlwy rhyngwladol. Ewch i’r RHAGLEN i gael gwybodaeth bellach am hyn Perfformiadau theatr, dawns a cherddoriaeth, nosweithiau cymdeithasol, seminarau, y cyfleodd i ryngweithio a rhannu syniadau. Mae rhywbeth i bawb o bob oedran yn Agor Drysau 2012.
|
|||||||||
| © yn y cynnwys: Arad Goch a'r cwmniau unigol | Cynllun ©redsnapper 2011 | |||||||||