| AGOR DRYSAU
GWYL THEATR RYNGWLADOL CYMRU I GYNULLEIDFAOEDD IFANC
16 – 20 Mawrth 2010
CROESO! drama, pypedau, chwerthin, dawns a llawer mwy sydd yn yr wyl arbennig yma; a hynny o'r radd flaenaf. Dros pum diwrnod mi fydd y gorau o Gymru a thu hwnt yn perfformio ar lwyfannau yn Aberystwyth yn ystod y dydd, nos a’r penwythos ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Mi fydd cwmnïau o Ffrainc, Awstria a Rwsia yn ymweld a’r 6ed wyl er mwyn eich diddanu a’ch ysbrydoli. I ychwanegu at bwrlwm yr wyl mi fydd yna ddarlleniadau, seminarau a derbyniadau.
Heb os, mae yna rywbeth at eich dant, mynnwch docyn a gwnewch yn si?r o’ch sedd.
-
16 cynhyrchiad ar gyfer plant o 18 mis oed i oed Tadcu
-
Cynulleidfa o dros 4,000 yn ystod yr wythnos
-
Perfformiadau ar gyfer ysgolion, pobl ifanc a teuluoedd
-
Perfformiadau yn ystod y dydd, nos a’r penwythnos
-
Agor Drysau Eraill – mi fydd perfformiadau mewn theatrau o amgylch Cymru
-
Seminarau, darlleniadau a derbyniadau
Mae’r tocynnau yn fargen ac yn amrywio o £2.50 i £8, neu gwell byth prynwch docyn g?yl am £50.
Bydd Tocyn Gwyl yn agor y drws i:
-
Tocyn i bob cynhyrchiad.
-
Mynediad i seminarau ayyb.
-
Cymorth wrth drefnu llety.
-
Trafnidiaeth i bob perfformiad yn ystod yr wyl
- Rhaglen yr wyl gyda gwybodaeth lawn am gynyrchiadau, cwmnïau, lleoliadau a.y.b.
-
Trafodaethau
-
Mynediad i far yr wyl a digwyddiadau cymdeithasol eraill.
-
Gwibdaith i weld golygfeydd yr ardal.
Cynigir Tocyn Gwyl yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o dramor; yn ogystal cynigir trafnidiaeth yn rhad ac am ddim o’r meysydd awyr i Aberystwyth ac yn ôl. Argymhellir i ymwelwyr tramor hedfan i feysydd awyr Birmingham neu Gaerdydd; gellir trefnu trafnidiaeth i feysydd awyr Heathrow a Gatwick.
Ceir gwybodaeth ynglyn â bwcio tocynnau unigol ar dudalen y Rhaglen.
Cysylltwch â ni os byddwch angen mwy o wybodaeth neu gymorth i drefnu ymweliad â’r wyl.
agor.drysau@aradgoch.org
Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth, SY23 2NN, Cymru
Tel: +44.(0)1970.617998
Fax: +44(0)1970.611223
|