Cyfieithiad Enid Gruffudd o ddrama boblogaidd Mike Kenny yw Bag Ddawns, un o’r dramâu i bobl ifanc a berfformiwyd yn amlach nac unrhyw gynhyrchiad arall. Mae’n ddrama ddi-amser, llawn hiwmor a dwyster. Ceir ynddi hanes Imelda a Neville - y naill yn crwydro’n ddi-baid a’r llall heb unman i fynd. Fel mae’r ddrama’n datblygu datgelir eu profiadau, drwg a da, a’r effaith gaiff eu hatgofion ar eu bywydau. Trwy ddarganfyddiad ac empathi cawn ein denu i mewn i’w byd nhw….neu ein byd ni…?
oedran: 10+
hyd: 60 munud |