Hanes gwir a geir yn y ddrama ddirdynnol hon gan Gwmni’r Frân Wen. Bu farw Johnny Delaney yn 2003 ar gyrion Ellesmere Port, wedi i griw o fechgyn ifanc adweithio yn erbyn ei acen Wyddelig ac ymosod arno. Yn ôl tystion ar y pryd, defnyddwyd y gair ‘Gypo’ yn ystod yr ymosodiad, er mai o dras Teithwyr Gwyddelig, sy’n garfan ethnig leiafrifol gydnabyddedig, oedd Johnny. Dedfrydwyd dau o’r bechgyn hynny i garchar am bedair mlynedd a hanner am ddynladdiad yn hytrach na llofruddiaeth, ac ni wnaed cyhuddiad o ymosodiad wedi’i gythruddo’n hiliol yn eu herbyn.
oedran: 13+
hyd: 60 munud |