Gwyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc | Wales International Festival of Theatre fopr Young Audiences


 

arad gochMawrth 11-15 2008

Croeso i’n Gwyl – y 5ed Gwyl Agor Drysau. Pan gynhaliwyd yr Wyl ddiwethaf yn 2005 dywedodd un o’r ymwelwyr “You seem to have a formula that works, why not build on it” – a dyma yn union rydym yn ei wneud yn Agor Drysau 2008.

Eleni bydd AGOR DRYSAU - OPENING DOORS Gwyl Theatr Ryngwladol i Gynulleidfaoedd Ifanc yn cynnwys perfformiadau o Ffrainc, Denmarc, Gwlad Belg, Lloegr, Iwerddon yn ogystal â pherfformiadau gan rai o gwmnïau theatr gorau Cymru.
Cynhelir yr wyl yn Aberystwyth - sydd o fewn cyrraedd hawdd i unrhywle yng Nghymru. Mae Aberystwyth yn gartref i rai o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru gan gynnwys un o’r canolfannau celfyddydau gorau a phrysuraf.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fydd prif leoliad yr wyl ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau eraill; yn ogystal, cynhelir perfformiadau mewn theatrau eraill ac ysgolion y dref. Bydd y cwmnïau tramor yn perfformio mewn canolfannau a threfi eraill yng Nghymru – gan roi cyfle i’n cynulleidfaoedd ifanc weld rhai o berfformiadau gorau’r byd. Ewch i’r Rhaglen i weld rhestr lawn o’r perfformiadau, lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd.

Cynhelir digwyddiadau eraill gan gynnwys trafodaethau, darlleniadau o sgriptiau newydd, digwyddiadau cymdeithasol, , derbyniadau, gwibdaith, a bar yr wyl (i drafod, cynllunio, cyfnewid – a thamed bach o ganu!).

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i’r wyl. Rhydd AGOR DRYSAU - OPENING DOORS gyfle i ni groesawu cynhyrchwyr, hyrwyddwyr a chyfarwyddwyr gwyliau theatr o wledydd eraill i Gymru - ac i artistiaid o Gymru berfformio ochr yn ochr a’u cydweithwyr o dramor.
Mae rhywbeth i bawb! Cysylltwch â ni i drefnu cael gweld rhai o’r perfformiadau theatr gorau yn y byd.

Bydd Tocyn yr Wyl, am £50, yn agor y drws i:

  • Tocynnau yn rhad ac am ddim i bob cynhyrchiad.
  • Mynediad i seminarau ayyb.
  • Cymorth wrth drefnu llety.
  • Trafnidiaeth i bob perfformiad yn ystod yr wyl
  • Rhaglen yr wyl gyda gwybodaeth lawn am gynyrchiadau, cwmnïau, lleoliadau a.y.b.
  • Trafodaethau
  • Mynediad i far yr wyl a digwyddiadau cymdeithasol eraill.
  • Gwibdaith i weld golygfeydd yr ardal.

Cynigir Tocyn yr wyl yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o dramor; yn ogystal cynigir trafnidiaeth yn rhad ac am ddim o’r meysydd awyr i Aberystwyth ac yn ôl. Argymhellir i ymwelwyr tramor hedfan i feysydd awyr Birmingham neu Gaerdydd; yn ogystal gellir trefnu trafnidiaeth i feysydd awyr Heathrow a Gatwick.
Ceir gwybodaeth yngyn â bwcio tocynnau unigol ar dudalen y Rhaglen.
Cysylltwch â ni os byddwch angen mwy o wybodaeth neu gymorth i drefnu ymweliad â’r wyl.
post@aradgoch.org
Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth, SY23 2NN, Cymru
Tel: +44.(0)1970.617998
Fax: +44(0)1970.611223


wefan © arad goch 2008 | cynllun © keith morris / red snapper 2008