Eleni
bydd AGOR DRYSAU - OPENING DOORS Gwyl Theatr Ryngwladol i Gynulleidfaoedd
Ifanc yn cynnwys perfformiadau o Ffrainc,
Denmarc, Gwlad Belg a’r Eidal yn ogystal â pherfformiadau
gan rai o gwmnïau theatr gorau Cymru.
Cynhelir yr wyl yn Aberystwyth - sydd o fewn cyrraedd hawdd
i unrhywle yng Nghymru. Mae Aberystwyth yn gartref i rai o sefydliadau
diwylliannol pwysicaf Cymru gan gynnwys un o’r canolfannau
celfyddydau gorau a phrysuraf.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fydd prif leoliad yr wyl ar
gyfer perfformiadau a digwyddiadau eraill; yn ogystal, cynhelir
perfformiadau mewn theatrau eraill ac ysgolion y dref. Bydd y cwmnïau
tramor yn perfformio mewn canolfannau a threfi eraill yng Nghymru
– gan roi cyfle i’n cynulleidfaoedd ifanc weld rhai
o berfformiadau gorau’r byd. Ewch i’r
Rhaglen i weld rhestr lawn o’r perfformiadau, lleoliadau,
dyddiadau ac amseroedd.
Cynhelir digwyddiadau eraill gan gynnwys trafodaethau, digwyddiadau
cymdeithasol, derbyniadau, gwibdaith, a bar yr wyl (i drafod, cynllunio,
cyfnewid – a thamed bach o ganu!). Bydd y trafodaethau yn
cynnwys ‘Cyfieithu Calon Celfyddyd – cyfieithu theatr
i gynulleidfaoedd ifanc i ieithoedd a diwylliannau eraill’.
(Gweler NEWYDDION)
Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i’r
wyl. Rhydd AGOR DRYSAU - OPENING DOORS gyfle i ni groesawu cynhyrchwyr,
hyrwyddwyr a chyfarwyddwyr gwyliau theatr o wledydd eraill i Gymru
- ac i artistiaid o Gymru berfformio ochr yn ochr a’u cydweithwyr
o dramor. Mae’n braf cael cyhoeddi y bydd Pwyllgor Rhyngwladol
ASSITEJ (l’Association Internationale du Théâtre
pou l’Enfance et la Jeunesse – Cymdeithas Theatr Ryngwladol
i Blant a Phobl Ifanc) yn cyfarfod yn Aberystwyth yn ystod yr wyl.
Mae rhywbeth i bawb! Cysylltwch â ni i drefnu cael gweld
rhai o’r perfformiadau theatr gorau yn y byd.
Bydd Tocyn yr Wyl, am £15, yn agor y drws i:
- Tocynnau yn rhad ac am ddim i bob cynhyrchiad.
- Cymorth wrth drefnu llety.
- Trafnidiaeth i bob perfformiad yn ystod yr wyl
- Rhaglen yr wyl gyda gwybodaeth lawn am gynyrchiadau, cwmnïau,
lleoliadau a.y.b.
- Trafodaethau
- Parti’r wyl ar nos Sadwrn.
- Mynediad i far yr wyl a digwyddiadau cymdeithasol eraill.
- Gwibdaith i weld golygfeydd yr ardal.
Cynigir Tocyn yr wyl yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o dramor;
yn ogystal cynigir trafnidiaeth yn rhad ac am ddim o’r meysydd
awyr i Aberystwyth ac yn ôl. Argymhellir i ymwelwyr tramor
hedfan i feysydd awyr Birmingham neu Gaerdydd; yn ogystal gellir
trefnu trafnidiaeth i feysydd awyr Heathrow a Gatwick.
Ceir gwybodaeth yngyn â bwcio tocynnau unigol ar dudalen
y Rhaglen.
Cysylltwch â ni os byddwch angen mwy o wybodaeth neu gymorth
i drefnu ymweliad â’r wyl.
post@aradgoch.org
Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth, SY23 2NN, Cymru
Tel: +44.(0)1970.617998
Fax: +44(0)1970.611223 |